25 Mai 2017

 

Annwyl

Llais cryfach i Gymru: ymgysylltu â San Steffan a’r gwledydd datganoledig

Ysgrifennaf atoch fel Cadeirydd Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Rydym ar hyn o bryd yn cynnal ymchwiliad i effeithiolrwydd gweithio rhyng-lywodraethol a rhyng-seneddol.

Rydym wedi rhannu’r gwaith hwn yn ddwy elfen: materion cyfansoddiadol a materion polisi. Nod yr ail elfen yw ystyried:

·         Natur y cysylltiadau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, sut y mae’r cysylltiadau hyn yn gweithredu a sut y gellir eu gwella.

·         Gwella cyfleoedd i lywodraethau a seneddau ddysgu’n well am bolisïau ar y cyd.

·         Arfer gorau o ran cysylltiadau rhyngsefydliadol ar draws y DU y gellid ei ddefnyddio yng nghyd-destun Cymru.

·         Natur y cysylltiad rhwng deddfwrfa Cymru a deddfwrfa’r DU a chanfod cyfleoedd i seneddau weithio’n fwy effeithiol â’i gilydd.

·         Unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â chysylltiadau rhyngsefydliadol, gan gynnwys y goblygiadau perthnasol sy’n deillio o’r ffaith bod y DU yn gadael yr UE.

Rwyf felly’n ysgrifennu atoch fel sefydliad nad yw wedi ymwneud yn rheolaidd â’r Cynulliad Cenedlaethol, ond sydd wedi ymwneud yn rheolaidd â deddfwrfeydd eraill y DU.

 Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed eich barn ynghylch pam fod hyn yn wir. Yn benodol:

-          A oes unrhyw rwystrau i ymgysylltu â’r Cynulliad Cenedlaethol?

-          Beth yw eich canfyddiad o’r broses o ymgysylltu â phwyllgorau yng Nghaerdydd o’i chymharu â Llundain, Caeredin neu Belfast?

-          Beth yw eich canfyddiad a’ch disgwyliad o weithio rhyng-sefydliadol a chysylltiadau, a’ch barn ar ddysgu gan sefydliadau eraill?

Rwy’n sicr y bydd eich dealltwriaeth yn ddefnyddiol iawn ac rwy’n edrych ymlaen at glywed gennych.

Yn gywir

Huw Irranca-Davies

Cadeirydd

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.